Y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwf Gwledig, 23.05.2023. Cofnodion

 

Yn bresennol:                   Sam Kurtz AS (Cadeirydd)

Paul Davies AS

Sam Rowlands AS

Jonathan Evershed, aelod o staff cymorth Cefin Campbell

Mike Bryan, aelod o staff cymorth Sam Kurtz

 

Ysgrifenyddiaeth:           Nigel Hollett (Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru)

Robert Dangerfield (Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru)

Emily Thomas (Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru)

 

Tystion ar gyfer yr ymchwiliad i gynhyrchiant gwledig:

 

                                                Suzy Davies, Cynghrair Twristiaeth Cymru

David Chapman, UKHPA

Roy Church, Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru

Sean Taylor, Sylfaenydd a Llywydd, Zip World UK

Avril Roberts, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru

 

Hefyd yn bresennol oedd:

 

James Wallice, aelod o staff cymorth Sam Kurtz

Zoe Henderson

 

 

Cwestiynau

 

1.       Beth yw’r rhwystrau o ran sicrhau twf o fewn y sector twristiaeth wledig yng Nghymru?

 

·         Mae gan 40 y cant o aelodau Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru ddiddordeb mewn twristiaeth, ac mae diffyg dealltwriaeth amlwg ynghylch beth yw natur y busnesau hynny.

·         Mae angen diwygio’r drefn ardrethi busnes. Mae’r dreth dwristiaeth yn dreth ychwanegol nad yw’r diwydiant ei hangen mewn cyfnod pan fo cymaint o fusnesau yn parhau i geisio ailadeiladu ar ôl y cyfnodau clo a gafwyd yn sgil COVID.

·         Hoffai’r cyhoedd weld y Senedd yn helpu gydag ymgyrchoedd amrywiol gan randdeiliaid i sicrhau bod cydraddoldeb yn bodoli rhwng Cymru a gwledydd Ewropeaidd eraill o ran cyfraddau TAW.

·         Mae'r rheol 182 diwrnod yn arwain at anawsterau i sector mawr yn y farchnad.

·         Mae pryderon cynllunio parhaus sy'n rhwystro'r gallu i dyfu a buddsoddi. Nid yw'r system yn addas i'r diben, a gall fod yn rhwystrol. 

·         Mae pryderon ynghylch buddsoddi ar ôl diwedd y cyfnod pan fydd cyllid Ewropeaidd ar gael, a byddai'r sefyllfa hon yn cael effaith weddol gryf ar gymunedau gwledig.

·         Mae recriwtio a sgiliau staff yn parhau i fod yn broblem i'r diwydiant, gyda nifer sylweddol o swyddi gwag ar gael. Mae dwywaith cymaint o swyddi gwag yn cael eu hysbysebu na’r hyn a welwyd yn 2019.

·         Nid yw polisïau sy'n gweithio'n dda yn cael eu hintegreiddio rhwng y diwydiant twristiaeth a'r Llywodraeth ledled Cymru.

·         Mae ansicrwydd ynghylch materion fel y dreth dwristiaeth, costau ynni uchel, a chostau byw yn taflu cysgod dros fusnesau, a hynny yn sgil y ffaith bod llawer wedi colli eu cronfeydd arian parod wrth gefn yn ystod y cyfnod COVID a bod llawer yn parhau i dalu benthyciadau yn ôl. Mae hyn yn dylanwadu ar ystyriaethau busnesau o ran y buddsoddiadau y mae pobl yn barod i'w gwneud.

·         Mae’r darlun o ran rheoli cyrchfannau a marchnata yn ddarniog. Nid yw’r gwaith hwn yn cael ei wneud yn ddigon effeithlon ar lefel y Llywodraeth ac nid yw rhai rhannau o Gymru yn cael cyfran deg o’r gwaith hyrwyddo sy’n cael ei wneud. Byddai hyn yn wahanol pe bai strwythur priodol ar gyfer rheoli cyrchfannau yng Nghymru.

·         Mae’r mwyafrif o’r farn y dylai Croeso Cymru weithredu’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ond byddai angen ariannu’r sefydliad yn ddigonol er mwyn caniatáu i Gymru gystadlu’n iawn â gweddill y byd. Nid oes unrhyw gorff pontio sy’n hwyluso ymgysylltu rhwng y Llywodraeth a’r gymuned fusnes.

·         Mynegwyd pryder difrifol ynghylch yr ymdrechion i hyrwyddo pum newid polisi mawr (y dreth dwristiaeth, cyfraddau eiddo, newidiadau i ddeddfwriaeth gynllunio, cynigion ar gyfer gwyliau ysgol a’r drefn drwyddedu statudol), a fydd yn effeithio ar dwristiaeth ar yr un pryd. Mae angen asesiad effaith cyffredinol i dynnu sylw at sut y bydd yr holl newidiadau hyn yn effeithio ar y diwydiant. 

·         Mae angen ateb cyfannol ledled Cymru, gan ystyried y rôl gymunedol a chymdeithasol hanfodol y mae’r diwydiant yn ei chwarae.

·         Mae angen sicrhau bod twristiaeth ac amaethyddiaeth yn cael eu gweld fel y ddau brif ddiwydiant yng Nghymru, a dylid buddsoddi ynddynt mewn modd sy’n adlewyrchu hynny.

·         Mae diffyg cysylltiadau band eang yn rhwystr. Mae 9 allan o’r 10 o awdurdodau lleol nad oes cysylltiad band eang digonol yn awdurdodau gwledig. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn deddfu ac yn cyflwyno mesurau arloesi newydd ar gyfer y diwydiant – megis llwyfannau ar gyfer archebu a gwneud ceisiadau am gyllid, ac ati – nid oes gan rai busnesau y gallu i wneud cais ar-lein. Mae hyn yn creu rhwystrau.

·         Mae’r economi ymwelwyr a’r sector lletygarwch yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn lleol ac yn genedlaethol. Dyma’r sectorau sy'n talu biliau pobl leol ac yn rhoi bwyd ar eu byrddau. Mae angen ei gilydd arnynt, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae newid pwysig y mae angen ei ystyried ar y cyd ynglŷn â sut rydym yn siarad am y gwahaniaeth y mae’r sector ymwelwyr a’r sector lletygarwch yn ei wneud yn ein cymunedau gwledig.

 

2.       A oes heriau amlwg i fusnesau twristiaeth yng nghefn gwlad Cymru?

 

·         Mae polisi cynllunio yn her ar draws Cymru, ond yn enwedig o fewn ardaloedd gwledig.

·         Mae gwariant yn yr economi ymwelwyr yn is nag ydyw mewn unrhyw le arall yn y DU.

·         Ar hyn o bryd, mae’r naratif yn canolbwyntio ar ba mor niweidiol yw twristiaeth i rai cymunedau. Mae problem gyda pherchnogaeth ail gartrefi, yn hytrach na thwristiaeth, ac mae hwn yn fater penodol sy’n effeithio ar brisiau tai. Fodd bynnag, nid dyma’r unig ffactor sy’n arwain at brisiau tai sydd mor uchel. Mae twristiaeth yn cael ei thanwerthu, gan fod twristiaeth yn cadw pobl mewn cymunedau gwledig.

·         Mae diffyg llety a thrafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yn broblem o ran llenwi swyddi gwag, ac yn ei gwneud yn anodd cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael, gan gynnwys cyfleoedd ym maes twristiaeth. 

·         Dyblygu – Mae gan rai awdurdodau lleol, fel Sir Benfro a Gwynedd, barc cenedlaethol o fewn eu hardal. Mae lefel o gystadleuaeth rhyngddynt, yn hytrach na sefyllfa lle maent yn cydweithio ar y cynnig twristiaeth a brandio. Mae hyn hefyd yn wir am awdurdodau cynllunio.

·         Y dreth dwristiaeth yw’r dreth anghywir ar yr adeg anghywir. O ran yr anawsterau sydd wedi dod i’r amlwg rhwng y diwydiant a’r Llywodraeth ers mis Ionawr 2022, maent yn deillio o’r ffordd y cyflwynwyd y dreth.

·         Roedd COVID yn enghraifft dda o sut y gallai’r Llywodraeth a busnes gydweithio, a chynnal perthynas cymwynasgar ar lefel uwch. Roedd y diwydiant yn teimlo bod Gweinidogion yn gwrando. Fodd bynnag, ymddengys bellach fod diffyg cyfathrebu rhwng y ddau.

·         Er bod y DU yn ei chyfanrwydd yn dibynnu ar dwristiaeth fel rhan o’i heconomi, mae’r sector hwn yn un o’r sectorau sydd â’r lefel uchaf o drethiant yn y byd. Dywedwyd droeon fod angen ailosod y berthynas â’r Llywodraeth.

·         Mae’r dreth dwristiaeth yn flaenoriaeth wleidyddol rhwng y Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru. Mae angen sicrhau bod y dreth yn cael ei defnyddio’n lleol, fel bod ymwelwyr yn gallu gweld y budd yn glir.

·         Bydd y rhan fwyaf o’r bobl y bydd y rheol 182 diwrnod yn effeithio arnynt yn fenywod, gan mai nhw, yn gyffredinol, sy’n rheoli cartrefi gwyliau mewn busnesau teuluol. Cafodd y mater hwn ei drafod ag adran Jane Hutt AS, gan ei fod yn fater cydraddoldeb, ond cafodd ei anwybyddu.

 

3.       Pa effeithiau yr ydym yn debygol o’u gweld yn sgil yr ardoll ymwelwyr a’r cynllun trwyddedu statudol arfaethedig ar fusnesau twristiaeth mewn ardaloedd gwledig?

 

·         Achosi niwed i enw da. Defnyddiwyd Sir Benfro fel enghraifft, lle mae'r newidiadau'n gorfodi busnesau lleol, yn hytrach na pherchnogion ail gartrefi, i werthu eu heiddo. Mae’r pwynt pris yn parhau i fod ar lefel sy'n gwneud eiddo yn anfforddiadwy i bobl leol sy’n chwilio am gartrefi.

·         Mae busnesau'n dweud y byddai'n well ganddynt dalu'r dreth eu hunain yn hytrach na gofyn i ymwelwyr ei thalu. Os ydym mewn sefyllfa lle mae perchnogion busnes yn teimlo bod angen iddynt ddweud y fath beth, dylai hynny fod yn destun pryder mawr i’r Llywodraeth. Bydd hyn yn cael ei ystyried yn benderfyniad masnachol yn hytrach na phenderfyniad a gafodd ei yrru gan y newidiadau sy’n cael eu gorfodi arnynt.

·         Mae pryderon y bydd y dreth hon yn cael ei gosod ar drigolion Cymru. Y tro diwethaf y cafodd treth o’r fath ei gosod ar bobl Cymru, arweiniodd at Derfysgoedd Beca.

·         Mae pryder y bydd ymwelwyr yn teithio y tu allan i Gymru oni bai bod buddion y dreth yn cael eu defnyddio yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau y mae twristiaid yn eu defnyddio. Mae Prif Swyddog Gweithredol Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd wrth ei fodd â’r dreth dwristiaeth yng Nghymru, gan ei fod o’r farn y bydd yn annog twristiaid i ymweld â'r ardal honno yn lle Cymru.

 

4.       A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau twristiaeth mewn ardaloedd gwledig drwy’r newidiadau arfaethedig y mae’n bwriadu eu rhoi ar waith?

 

·         Yr hyn yr oedd ei angen ar ôl COVID, yn lle’r cam o gyhoeddi’r dreth dwristiaeth a’r anghytuno cysylltiedig, oedd: anogaeth, cefnogaeth, buddsoddiad a phartneriaeth. Nid yw'r dreth yn helpu unrhyw un yn y sefyllfa hon.

·         Nid yw’r diwydiant yn ymdrin ag un Gweinidog yn unig. Nid oes gwybodaeth ddigonol yn adran y Gweinidog Cyllid am sut mae'r diwydiant twristiaeth yn gweithio yng Nghymru. Mae angen deall bod ail gartrefi a chartrefi gwyliau yn ddau beth hollol wahanol. Yn adran yr Economi, mae Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog, bellach am drafod twristiaeth a chael ei chynnwys mewn sgyrsiau rhagweithiol.

·         Mynegwyd cefnogaeth ar gyfer y cam o gyflwyno cynllun cofrestru ar gyfer yr holl lety gwyliau, a fyddai'n sicrhau chwarae teg. Byddai cyflwyno cynllun cofrestru yn cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru, a hynny heb gyflwyno cynllun trwyddedu statudol.

 

5.       Beth sydd ei angen i gefnogi’r busnesau twristiaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd i dyfu, ac i helpu busnesau newydd i ymuno â'r sector twristiaeth wledig?

 

·         Mae angen i Lywodraeth Cymru sylweddoli bod y diwydiant yn rym er daioni. Mae cyfathrebu yn allweddol, ac mae'r diwydiant yn teimlo nad oes neb yn gwrando arno, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

·         Nid yw'r diwydiant yn cael ei gydnabod am y grym cymdeithasol ac economaidd sy’n gysylltiedig ag ef. Nid oes unrhyw uchelgais cydlynol o ran buddsoddi a marchnata ar gyfer y diwydiant a ddylai gael ei ystyried fel y prif ddiwydiant yng Nghymru. Gallai'r cynllun cofrestru gynorthwyo gyda hyn, ond bydd angen golwg gyfannol, wedi'i gwmpasu'n drylwyr, o sefyllfa’r diwydiant a sut mae'n gweithio ochr yn ochr â materion fel ail gartrefi.

·         Mae angen asesiad priodol ynghylch effaith economaidd yr holl newidiadau sydd ar fin digwydd a’r newidiadau sydd yn yr arfaeth. O ran mynd i’r afael â’r materion hyn, mae angen cydnabod bod yna wahanol ystyriaethau ar gyfer gwahanol leoedd. Nid yw un dull yn addas i bawb.

·         Mae angen cymorth o ran gwella sgiliau staff yn sgil y diffyg presennol. Mae angen ystyried twristiaeth fel gyrfa, yn hytrach na’r hyn y mae pobl yn ei wneud wrth aros am gyfle gwell.

·         Nid oes gan awdurdodau lleol ddigon o adnoddau.  Mae hyn yn golygu amseroedd aros hirach i fusnesau sydd eisoes yn bodoli ac sydd am ehangu, a newydd-ddyfodiaid sydd am fuddsoddi. Mae hyn yn atal gweithgarwch gan berchnogion busnes.

 

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 25 Gorffennaf 2023, yn Sioe Frenhinol Cymru.